Neidio at y cynnwys

S4C

Y Rhaglen

Mae Byw yn yr Ardd yn rhaglen arddio sydd wedi torri cwys newydd. Mae'r cyfuniad unigryw o arddio ymarferol â gweld yr ardd fel 'stafell arall' yn gwneud y rhaglen yn berthnasol i bawb. Os ydych eisiau gwybod sut i amddiffyn y bresych rhag y pryfaid heb ddefnyddio cemegion, fe gewch y wybodaeth hwnnw. Ac os mai gweld sut mae mynd ati i droi lawnt fechan yn ardd Siapaneaidd yw'ch diddordeb, yna fe gewch weld hynny hefyd.

Mae'r cyflwynwyr, Russell Jones, Bethan Gwanas a Sioned Rowlands yn frwdfrydig ac yn ddiymhongar. Maen nhw, fel y gwylwyr, yn llawn brwdfrydedd dros eu gerddi, am arddio, am blanhigion ac am fod tu allan.

Wrth gwrs, byddai'r rhaglen yn llawer tlotach heb y cyfraniadau oddi wrth y gwylwyr ac mae Byw yn yr Ardd yn falch o deimlo'n rhan o'r gymuned arddio ehangach hon.

Be gewch chi well! chwedl Russell!

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales