Y Cyflwynwyr
Bethan Gwanas 
“Mi ddechreuais i arddio nôl yn niwedd yr 80au pan brynais i fy nhy fy hun am y tro cynta,” meddai Bethan. Roedd gen i batshyn bach o ardd, ac yn ara bach, mi wnes i ddysgu sut i blannu pethau ac edrych ar eu holau nhw.”
Roedd gardd Ffrwd y Gwyllt wedi hen sefydlu. Mater o ddysgu edrych ar ei hôl hi oedd hi wedyn, a dyma pryd ddigwyddodd y 'learning curve' mwya anferthol!
“Dwi'n mwynhau garddio oherwydd ei fod o'n fy nghael i allan o'r tŷ ac i ffwrdd o'r cyfrifadur,” meddai, “ac mae 'na bleser mawr i'w gael o weld (a blasu) ffrwyth eich llafur.”
Pan na fydd yn garddio bydd Bethan yn sgwennu neu'n beicio neu'n cerdded mynydd efo Del, ei gast Gymreig a phwy bynnag arall sydd am fynd am dro.
“Roedd gwneud y pwll efo Russell a'i frawd James yn hwyl (Cyfres 2, Rhaglen 3) - ond yn lladdfa,” meddai. “A nes i fwynhau gwneud y gors ym Mhorthaethwy hefyd (Cyfres 1) - yn bennaf am mod i wedi chwysu dipyn. Mae'n llawer gwell gen i wneud rhywbeth na jest gwylio.”
Cewch ddarllen am helyntion garddio Bethan yn ei blog.
Russell Jones 
Yn fachgen bach, mae Russell yn cofio Mrs Owen, prifathrawes ysgol fach Rhosgadfan, yn rhoi planhigion iddo i'w hedrych ar eu holau dros y gwyliau. O'r amser hwnnw ymlaen roedd wedi ei fachu ar blanhigion, garddio a'r bywyd tu allan.
Roedd garddio yn ei waed beth bynnag. Odd mam yn neud lot efo'r ardd a o ni'n helpu 'chydig arni hi,
meddai. Roedd Nain a Taid Nebo hefyd yn garddio, Taid Nebo yn ‘neud llysiau fwya.
A draw yn Nalysarn, Dyffryn Nantlle, roedd Uncle Alwyn wrth ei fodd efo rhosod.
Ar wahan i'r planhigion mae diddordeb mawr arall Russell yn gyfarwydd i wylwyr Byw yn yr Ardd – yr ieir! “Dwi'n treial mynd i chwech neu saith o sioeau'r flwyddyn,” meddai. Y mathau Cochin a Yokohama yw prif ieir cystadlu Russell ac mae e wedi bod yn bur lwyddiannus gyda nhw.
Nid yr ieir a'r plahnhigion yn unig sy'n mynd â'i fryd: mae'n nyddu gwlan ei hun ac yn gwau siwmperi, hetiau a sanau ohono. (Russell gweodd yr het Siôn Corn a oedd yn gwisgo yn y rhaglen Nadolig). Mae Russell hefyd yn naddu ffyn ac yn gallu gwneud llwyau caru.
Sioned Rowlands 
“Cof cyntaf fi o wneud unrhyw beth efo blodau ydy pan on i tua chwech oed ac yn ‘sgwennu'n enw mewn llygaid-y-dydd yn y pwll tywod yn yr ardd. Roeddwn hefyd wrth fy modd yn tyfu mefys a dwyn ambell un heb i Llinos fy chwaer sylwi!”.
Mae Sioned yn dweud ei bod yn hollol obsessed efo blodau
. Yn 14 mlwydd oed dechreuodd weithio'n rhan amser mewn siop flodau a phan yn 16 roedd yn paratoi blodau i briodasau ar nos Wener pan oedd ei ffrindiau yn mynd allan i'r dre. Roeddwn yn cogio mai edrych ar ôl fy mrawd bach oeddwn!
meddai.
“Mam oedd yr ysbrydoliaeth fwyaf - mae hi'n berson hynod greadigol a mae ei hangerdd am flodau naturiol yn bendant wedi trosglwyddo ata i. Dwi wrth fy modd yn gwneud trefniadau blodau sy'n edrych yn naturiol.”
Does dim syndod felly mai gardd bythynol, wyllt ydy hoff math o ardd Sioned a'i hoff flodau ydy casgliad o flodau'r gwanwyn.
Pan nad ydy'n cyflwyno Byw yn yr Ardd mae Sioned yn paratoi bloadu ar gyfer priodasau neu i'w rhoi mewn gwestai, yn ysgrifennu erthyglau am flodau i'r Daily Post neu'n gweithio ar gynlluniau gosod newydd yn ei stiwdio.
