Tyfu Tomatos wyneb i waered

Pam?
Mae tomatos sy’n tyfu wyneb i waered yn aeddfedu bron i fis yn gynharach na’r rhai sy’n cael eu tyfu yn y dull cyffredin - a hynny heb orfod chwynnu na defnyddio ffyn na rhoi chawell dros eu pennau. Ac mae’n diddymu problemau afiechydon o’r pridd, llygod ffyrnig a chwiningod! Addas hefyd ar gyfer llysie eraill fel ciwcymbyr a phupur.

Cyfarwyddiadau
Cam 1 - paratoi’r braced hongian

Ni ddylai’r pellter rhwng gwaelod y sach a’r llawr fod yn llai na 1.2 metr (tua 4 troedfedd) - bydd hwn yn rhoi ddigon o le i’r planhigyn dyfu i’w faint llawn heb gyffwrdd â’r llawr. Dylid ei hongian ar fraced neu rhywbeth tebyg sy’n ddigon cryf i ddal 35 kg.
Cam 2 - paratoi’r compost

Mae’r plannwr yn dal tua 30 litr o gompost. Defnyddiwch gompost o ansawdd da sy’n cynnwys mawn sphagnum, perlite a vermiculite. Gwlychwch y compost yn drylwyr cyn llenwi’r plannwr - mi ddylai fod mor tamp a sbwng wedi ei wasgu.
Cam 3 - ychwanegu gwrtaith i’r compost

Argymellir defnyddio gwrtaith gronynnog (granular) sy’n rhyddhau ei hun yn araf i’r compost.
Cam 4 - plannu

Dewiswch un eginblanhigyn cryf i blannu. Gan bwyll, siglwch y pridd i ffwrdd o’r gwreiddyn a’i osod i un ochr. Gosodwch y fasged ar ei hochr a llenwch un hanner ohoni gyda’r pridd. Bwydwch y planhigyn drwy’r plannwr, dail yn gyntaf, gan gadw’r gwreiddyn a mwyafrif o’r goes yn gorwedd ar wyneb y pridd fel bod y gwreiddiau yn datblygu system wreiddiau cryf.
Tip! Lapiwch y dail mewn papur cyn eu gwthio drwy’r twll yn y plannwr.

Cam 5 - gweddill y pridd i mewn

Llenwch weddill y plannwr gan wasgu’r pridd i fewn i bob cornel ac o gwmpas y gwreiddiau. Gwnewch yn siwr nad oes unrhyw boced aer, yn enwedig o gwmpas y gwreiddiau.

Rhowch y stribed mewn dŵr ac yna ei osod ar ben y pridd yn ganolig, gyda’r ochr dywyll ar i fyny. Gosodwch y ‘argae’ (y bwced plastig du) ar ei ben - dylai pen yr argae fod yn lefel gyda top y plannwr.

Gwthiwch y gronfa i lawr i wneud yn siwr fod y pridd yn cyffwrdd y stribed yna lapiwch dau ben arall y stribed dros ochrau’r gronfa a’u dal yn eu lle gyda chlipiau papur i wneud yn siwr fod y stribed yn gorwedd yn y dŵr trwy’r amser.

Cam 6 - hongian a dyfrhau

Dylid hongian y plannwr yn ddigon isel i chi gyrraedd y gronfa. Mi fydd y plannwr yn reit drwm erbyn hyn felly efallai bydd angen ail bâr o ddwylo. (Yn amlwg o’r llun mae Bethan yn gallu gwneud y gwaith ei hun - merch fferm yw hi wedi’r cyfan!)

Llenwch y gronfa â dŵr.
Rhai diwrnodau ar ôl plannu, rhowch gip yn y bwced du i wneud yn siwr fod y stribed capilari yn dal yn ei le - mae anweddiad a’r pridd yn setlo yn gallu gwthio’r stribed i un ochr. Os felly, gwthiwch y gronfa i lawr unwaith eto.
Rhowch gip ar y pridd bob hyn a hyn i wneud yn siwr ei fod yn llaith. Pwysig - os yw’r stribed yn sychu, tynnwch y gronfa allan a dyfrio’r pridd eich hunan. Yna ail-wneud y camau o Gam 5.
