Eitemau
5 Ucha' Nadolig 2009
Does gan Russell ddim llawer o amynedd gyda siopa Nadolig ond mae e'n hoffi derbyn anrhegion! Dyma fyddai'r gŵr o Rhosgadfan yn hoffi gweld yn ei hosan ar fore ‘Dolig..
(Cofiwch – chwiliwch o gwmpas ac mae'n bosib cewch yr anrhegion yn rhatach!)

(£29.98)
Ydy cathod yn dod i'ch gardd a dychryn yr adar neu'n gadael anrhegion bach i chi? Wel, beth am ddychryn y cathod i ffwrdd?! Does dim angen Dychrynwr Cathod ar Russell, mae ganddo ddau yn barod – Seren a Derwen - ond mae'r teclyn bach yma yn gweithio drwy ddefnyddio golau coch a sŵn thonfedd uchel i gadw'r cathod draw.


B&Q – www.diy.com

(£13.99)
Os ydy'r ‘bobl bach’ yn swnian am ‘Wii’ neu ‘Playstation’, prynwch un o'r rhain iddyn nhw – mae e lot iachach ac mi fyddan nhw wrth eu boddau. (Nodyn gan y Golygydd - Ddim mor siwr a fyddan nhw mor hapus i gael hwn yn lle Wii, Russell!)


Prynodd Byw yn yr Ardd hwn yn Seiont Nurseries, Caernarfon, ond mae'r cit ar gael mewn amryw o ganolfannau garddio eraill.

(£39.99)
Os ydych chi yn brin o le i storio eich offer garddio beth am gael berfa sy'n plygu? Ac mae hi'n ysgafn hefyd, yng ngeiriau Russell, ‘'fath a deilen’.


The Kat's Pyjamas - http://shop.thekatspyjamas.com/category360213.html

(£18.99 + Nwy, £6.00)
Os cewch afael ar hwn bydd dim angen defnydido bôn braich na chemegion arnoch fyth eto! Bydd fflamau hwn yn eu difetha'n llwyr..ond peidiwch a'i chwifio o gwmpas yn wyllt …er.. Russell…!


Lime Shop - http://www.limeshop.co.uk/p-183-weed-wizard-kills-weed-instantly-without-chemicals.aspx

(£9.99)
Wel ferched, does dim angen chwilio'n bellach am anrheg i'r gwr neu'r cariad. Os yw'n ffansio ei hun fel tipyn bach o ‘hunk’ dyma ffedog i fwydo'r ffantasi!
(Ac mae'n bosib fe wnaiff mwy o'r coginio).


Presents For Men - http://www.presentsformen.co.uk/product-PFM-Hunk-Apron-3867
