Neidio at y cynnwys

S4C

Eitemau

10 Radio'r Garddwr

Radio fach ar ffurf can dyfrhau gyda'r erial yn dod o'r pig! Anrheg i'r sawl sy' wedi gwirioni ar arddio. Gall y radio gael ei chymryd i'r gawod gan ei bod yn dal dwr, ond y cwestiwn yw, a all hi wrthsefyll 'monsoon' Rhosgafan?!

Lle i'w cael: Radio Garddwr

9 Esgidau 'Aerating'

Ydy'ch lawnt chi angen anadlu? Cerddwch drosti yn gwiso'r rhain ac mi fydd na gannoedd o dyllau bychain yn y lawnt mewn dim o dro! Gwisgwch nhw pan fyddwch chi'n torri'r glaswellt a bydd y cymdogion damaid callach ond cofiwch eu tynnu nhw i ffwrdd cyn cerdded dros garped y stafell fyw!

Lle i'w cael: Esgidiau Aerating

8 Potiwr Papur

Peidiwch lluchio'r Cymro wedi ei ddarllen, gyda'r teclyn hwn gallwch ei ailgylchu fel pot papur bychan. Ar ôl i'ch planhigyn ddechrau tyfu mi fedrwch ei blannu'n syth i mewn i'r ddaear heb ei dynnu o'r pot - bydd y pot papur yn pydru. Clyfar iawn!

Lle i'w gael: Potiwr Papur

7 Goleadau Solar

Beth am oleuo'ch patio gyda'r goleadau solar yma? Neu lapiwch nhw rownd y goeden fel goleadau 'Dolig. Mae nhw'n wyrdd hefyd!

Lle i'w cael: Goleadau Solar

6 Pot Plannu Solar

Angen 'chydig o liw dros y 'Dolig llwm a gwlyb 'da ni'n siwr o gael? Wel dyma bot blodau i'ch llonni! Mae'r potiau yma'n amsugno'r haul yn ystod y dydd, yr un fath a'ch planhigion. Yna, wedi iddi nosi, bydd y pot yn taflu golau lliwgar ysgafn i droi'ch gardd yn ddisgo chwaethus.

Pot Plannu Solar

5 Gwasgod Drydanol

Brrrr! Mae'n oer i fyny'r topiau 'na yn Rhosgadfan ond mi fydd Russell yn siwr o gadw'n gynnes ar y Patsh gyda'r wasgod wresogi yma. Mae dau fateri diogel wedi'u cuddio ynddi ac fe all y gwres gael ei droi i ffwrdd fel y dymunir. Nawr beth am wasgod drydanol yr un i Seren a Derwen?

Lle i'w cael: Thanksdarling.com

4 Pecyn Tyfu Madarch

Does dim eisiau mynd i'r goedwig i hel madarch mwyach, tyfwch nhw yn y sied! Gwnaiff y pecyn tyfu madarch yma'n siwr y bydd digonedd o fadarch shii-take ar gael i'w rhoi yn eich bwyd.

Ar gael o ganolfeydd garddio.

3 Codwr Chwyn 'Speedy Weedy'

Dyma ffordd i ladd y chwyn 'na heb gemegion! Mae'r 'Speedy Weedy' yn hawdd i'w ddefnyddio, does dim angen i chi gael eich dwylo'n fudr chwaith! Rhowch y pigau yn y ddaear o boptu'r chwynnyn, trowch 'Speedy' a dyna'r chwynnyn wedi ei godi! A gydag enw mor ddeniadol a 'Speedy Weedy' bydd codi chwyn yn dod yn un o'ch hoff weithgareddau!

Lle i'w gael: Speedy Weedy

2 Camera Bocs Adar

Dim byd ar y teledu? Beth am droi i sianel y bocs adar! Gyda'r camera yma medrwch weld tu fewn eich bocs adar ar y sgrin. Gwyliwch opera sebon teulu'r nyth yn ddyddiol!

Lle i'w gael: Camera Bocs Adar

1 'Water Butt'

Does angen fawr o esboniad fama, casgen fawr ar ffurf pen-ôl i ddal holl law Rhosgadfan. Be gewch chi well!

Lle i'w gael: Y Water Butt

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales