Neidio at y cynnwys

S4C

Eitemau

Gin Eirin Surion/Tagu Bethan a Buck

Yr amser gorau i bigo'r eirin yw yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd ar ôl rhew cyntaf y flwyddyn yn ddelfrydol.

Er mwyn cael potel o gin Eurin Surion y cyfan sydd angen i chi wneud yw:

  1. Pigo tua 4- 6 owns o eirin surion.

  2. Golchi'r eirin ar ôl eu pigo.

  3. Rhowch dwll ym mhob un o'r eirin surion er mwyn sicrhau bod y gin yn cael ei amsugno i fewn i'r ffrwyth ac er mwyn cael blas da. Gallwch ddefnyddio pin neu defnyddiwch fforc - mae'n llawer mwy diogel!

  4. Arllwyswch y gin allan o'r botel i fewn i jwg yna rhowch yr eirin yn y botel.

  5. Defnyddiwch twndis er mwyn tywallt 4 owns o sigwr i fewn i'r botel.

  6. Nôl mewn â'r gin!

  7. y botel bob hyn a hyn am tua 2 fis er mwyn cymysgu'r cynhwysion yn dda yna … blaswch! Iechyd da!

    Dyma'r lliw bydd ar y gin wedi dau fis.

    Www, gan bwyll nawr …!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales