Eitemau
Shabby Chic

Mae shabby chic yn ffasiynol iawn y dyddiau 'ma gyda phobol yn gwario ffortsiwn ar ddodrefn ar gyfer y tŷ a'r ardd sy'n edrych yn hen a wedi cael eu defnyddio. Ond mae 'na ffordd dipyn rhatach a llawer mwy hwyliog o gael yr un effaith.

Mae yna siopau hen greiriau a siopau ail-law ar hyd a lled y wlad lle y medrwch brynu hen ddodrefn yn weddol rhad. Daethon ni ar draws y cwpwrdd pren yma, sy'n handi i gadw manion yr ardd, yn Siop Hen Greiriau Perry Higgins, ym Mhenmaenmawr.
Sut i fynd ati:
Cam 1

Mae angen papur llyfni a digon o fôn braich i ddechrau. Mae'n bwysig fod y pren yn hollol llyfn i sicrhau fod y paent yn glynu iddo.
Cam 2


Dewiswch dau liw o baent - un tywyll a'r llall yn olau. Gan ddefnyddio'r paent tywyll, gorchuddiwch y pren yn gyfangwbl. (Dyma'r lliw bydd yn dangos rhwng y craciau yn y pendraw.)
Cam 3

Ar ôl i'r haen gyntaf sychu, gorchuddiwch y cwpwrdd gyda crackle glaze sef farnis clir arbennig sy'n creu craciau yn y paent. Tip! I sicrhau gorffeniad llyfn, paentiwch mewn un cyfeiriad yn unig a pheidiwch paentio dros yr un lle ddwywaith.
Cam 4


Ar ôl i'r farnis sychu mae angen cymysgu'r ail baent (yr un lliw golau) i drwch cwstard tenau drwy ychwanegu ychydig o ddŵr ato. Rhowch haen o hwn dros y cwpwrdd.
Cam 5

Ar ôl i'r paent sychu'n llwyr, mae'r cwpwrdd yn barod i'w ddefnyddio. Rydym wedi gosod potiau o berlysiau a blodau crôg ar ei ben, a storio hadau a theclynnau garddio tu fewn iddo.

Tip: Mae'n rhatach i ail-gylchu dodrefn na'u prynu. Pa ddodrefn sydd gyda chi yn y tŷ y gallech eu hadfywio a rhoi 'chydig o steil shabby chic iddyn nhw? Ewch ati!
