Eitemau
Secateurs

Mae'r gair 'secateurs' yn deillio o'r gair Lladin am dorri sef 'secare' ac os ydych chi am dorri a thocio'n hapus yn yr ardd yna dewiswch y pâr sy'n iawn i chi!

Tip - dewiswch secateurs sydd y maint cywir i'ch llaw. Mi wnaiff wahaniaeth mawr os fyddwch yn eu defnyddio am amser hir.

Dyfais sy'n gwneud tocio planhigion yn haws ydy 'rachet' (lliw oren yn y llun). Gall drebli pwer y torri a lleihau'r straen i'ch llaw. Yn y pâr sydd yn y llun mae yna ddyfais arall hefyd - mae un carn yn troi wrth gael ei gwasgu sy'n eich galluogi i dorri mwy heb flino.

Wrth gwrs nid pawb sy'n gyffryrddus yn defnyddio eu llaw dde. Mae yna secaterus ar gael i bobl llaw chwith. (Mwy o wybodaeth http://www.anythingleft-handed.co.uk/acatalog/garden_diy.html)

Bypass secateurs yw'r mwya cyffredin, lle mae un llafn yn gwthio heibio i'r llall megis siswrn ond mae yna fathau eraill. Yn y llun mae secateurs 'einion' (Anvil). Un llafn sydd i'r math yma, sy'n cau ar ddarn fflat o fetal (yr 'einion').

Mae secateurs sy'n cael eu pweri gan fateri yn drymach na'r gweddill ond gallant dorri 500 gwaith cyn bod angen ail lenwi'r batri. Gallant hefyd dorri ar raddfa o un torriad bob eiliad
