Neidio at y cynnwys

S4C

Gwnewch belen Uchelwydd!

Gwnewch belen Uchelwydd

I wneud pelen uchelwydd fel yr un uchod fe fydd angen y canlynol arnoch:

Oasis siap pêl, 'cwpan bach plastig' (gweler y llun cyntaf, isod) uchelwydd, 'pittosporum', ruban, rhosmari neu rhyw berlysiau sy'n arogli'n dda, darn o weiren.

Cam 1

Glychwch yr oasis cyn dechrau er mwyn i'r planhigion bara'n hyrach.

Cam 2

Rhowch y cwpan bach yn yr oasis a wedyn plygwch y darn weiar yn ei hanner a'i wthio drwy'r tyllau back yn y cwpan plastig. Gwethiwch tan fod y weiar yr holl ffordd trwodd ac allan yr ochr arall – ond gadewch ddigon o le i rhoi ruban trwy'r pen.

Gwnewch belen Uchelwydd

Gwnewch belen Uchelwydd

Cam 3

Gwnewch 'loop' bach ym mhen draw'r weiar hefyd er mwyn hongian rhuban oddi arno. (Fel isod. Dylasai fod 'loop' ym mhob pen ganddoch chi.)

Gwnewch belen Uchelwydd

Cam 4

Torrwch y 'pittosporum' i gyd yr un hyd er mwyn cadw siap y bêl - a gorchuddiwch y bêl cyn rhoi'r uchelwydd i fewn.

Gwnewch belen Uchelwydd

Gwnewch belen Uchelwydd

Cam 5

Nawr rhowch y rhosmari neu'r perlysiau eraill ynddi!

Cam 6

Yn olaf rhowch yr uchelwydd yn y bêl, a dyna chi, pelen hyfryd beraroglus! Beth am wneud sawl un a'u rhoi o gwpas y tŷ neu fel anrhegion i'ch ffrindiau?

Gwnewch belen Uchelwydd

Gwnewch belen Uchelwydd

  • Tafod yr Oen (Fat Hen)
    Pigwch hwn cyn iddo flodeuo neu bydd yr hadau yn mynd dros yr ardd i gyd. Dim ond y dail sydd angen eu defnyddio.
  • Suran yr Yd (Sheep’s Sorrel)
    Mae tua 5 math o ddail sur ac mae pob un yn blasu o lemwn - hyfryd mewn salad.
  • Llys y Gymalwst (Ground-Elder)
    Peidiwch defnyddio gormod oherwydd mae ganddo flas cryf. Mae hwn yn boblogaidd mewn salad yn Scandinafia.
  • Llygaid y Dydd
    Edrych yn hyfryd mewn salad! Yn draddodiadol roedd llygaid y dydd yn cael eu defnyddio at ddibenion meddygol, yn enwedig yn erbyn gwynegon.
  • Tafod y Fuwch (Borage)
    Bydd hwn yn rhoi blas ciwcymber i’r salad.

Sut i wneud coffi dant y llew

Salad

  • Sychwch wreiddiau’r dant y llew am ddau ddiwrnod.
  • Yna rhowch y gwreiddiau mewn yn y popty am 10-20 munud nes eu bod yn frown (fel yn y llun uchod).
  • Byddwch yn gwybod pan eu bod nhw’n barod - byddant yn torri’n hawdd.
  • Malwch y gwreiddiau mewn malwr coffi tan i chi gael powdwr fel coffi (fel yn y llun isod).

Salad

  • Rhowch lwyaid fawr ohono mewn pot gyda dwr berwedig.
  • Gadewch i’r cymysgedd fwydo am bum munud er mwyn iddo gael mwy o flas.
  • Cofiwch hidlo’r coffi i gael gwared o’r gronynnau wrth ei dywallt!

Sut i wneud y Te llysiau

Salad

  • Rhowch flodau’r Ysgawen, Meddyges Las (Selfheal) a Mintys - oll wedi sychu - mewn tebot.
  • Rhowch ddŵr berwedig arnynt.
  • Gadewch i’r cymysgedd fwydo am bum munud er mwyn i’r blasau gael treiddio drwy’r te.
  • Cofiwch hidlo’r te cyn ei yfed neu fe gewch lond ceg o lysiau!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales