Planhigion Gardd Greigiog
Os oes gardd greigiog gyda chi heb lawer o ddyfnder i’r pridd, fel gardd Oliver ac Ann Roberts yn Llandrillo-yn-Rhos, peidiwch poeni! Gallwch chi dal blannu planhigion ond i chi ddewis rhai addas.

Tip! Peidiwch a meddwl bod yn rhaid prynu’r holl blanhigion mewn un ymweliad â’r ganolfan arddio. Er mwyn sicrhau bod yna blanhigoin yn tyfu ar y graig drwy’r flwyddyn, y peth gorau i wneud yw prynu planhigion o’r ganolfan arddio yn gyson drwy’r haf gan fod pethau newydd yn eu tymor yn ystod gwahanol fisoedd.

Dyma blanhigion addas
- Sempervivum ‘Commander Hay’
- Sempervivum ‘Blood Tip’
- Sempervivum ‘Mrs Giuseppi’
- Jovibarba allionii
- Sedum spathulifolium ‘Purpureum’
- Saxifraga ‘Fairy’
- Viola ‘Roscastle Black’
- Cerastium tomentosum (Clust Llygoden y Felin)
- Sedum ‘Spectabile Brilliant’ (Briweg)
- Lithodora ‘Heavenly Blue’
(Hwn oedd y blodyn glas hyfryd a blannodd Sioned.)
- Sedum ‘reflexum’ (Briweg)
