Eitemau
Sut i greu popty pizza eich hun yn yr ardd


Tip
Dewiswch lle cysgodol yn yr ardd allan o'r gwynt.
Amser paratoi
1 diwrnod i greu'r sylfaen
1 diwrnod llawn i greu'r popty
2 wythnos i'w sychu cyn ei ddefnyddio
Deunydd
Tarpolin
4 llond berfa o glai
Tywod
Gwellt
Dail Tafol/ Masarn
Brigau helyg 6 troedfedd o hyd, maint bys bach o drwch
Brics cyffredin
Sment
To zinc neu gazebo i'w warchod rhag tywydd drwg
Brics tân (fire bricks)
2 sach o flociau pren
10 sach o goed tân sych
Camau
Creu sylfaen crwn 3 troedfedd o ddiametr a 2 droedfedd o uchder gan ddefnyddio'r brics cyffredin a'r sment a'i adael i sychu. (Mae'r llun yn dangos golygfa o uwchben y sylfaen)

(I weld sut mae gwnedu sylfaen ychydig yn wahanol ewch yma: http://clayoven.wordpress.com/2008/09/01/2-the-plinth-foundation-plinth-and-brick-oven-floor/)
Gosod tarpolin ar lawr a chymysgu'r clai, tywod a gwellt gyda'i gilydd. Dewisodd Russell i wneud hyn yn yr hen ffordd draddodiadol - gyda'i draed. (Mae canu alawon gwerin tra'n gwneud hyn yn ddewisol.)

Creu basged allan o frigau helyg:
a) Cymryd dau frigyn a'u plygu'n ddau fwa dros ei gilydd mewn siâp croes. Dylid gwthio'r pennau i mewn i'r pridd.
b) Torri 6 brigyn arall yn eu hanner a'u plethu o un ochr i'r llall dros y bwa i greu cylch.
c) Plethu gweddill y brigau o gwmpas y ffram gan ddechrau o'r gwaelod a gweithio i fyny tan cyrraedd y copa.
Dyma'r siap fydd ganddoch wedi i chi wneud hyn.

-
Gosod sosej o glai mewn siap ¾ cylch ar ben y sylfaen yna rhoi'r brics tân yn nghanol y sosej i greu llawr i'r popty.

Gorchuddio'r fasged gyda haenen o bridd (nid y clai) yna rhoi dail gwlyb (masarn neu ddail tafol neu beth bynnag sydd wrth law) dros y pridd. (Bydd y pridd, y dail a'r ffram helyg ei hun yn cael eu llosgi i ffwrdd pan cynnir tân yn y popty)


Nawr gellir rhoi'r cymysgedd o glai, tywod a gwellt dros y dail i adeiladu siâp iglw.

Creu drws ar ochr mwyaf cysgodol y popty, allan o'r gwynt.

Creu simne yn y tô gyferbyn â'r drws. (Yn y llun mae piben blastig wedi cael ei defnyddio fel 'mould'. Wedi gorchuddio'r ffram â chlai dim ond tynnu'r biben i ffwrdd sy'n rhaid i adael twll sy'n simnau perffaith.)

-
Cynnau tân bychan i stemio'r ffwrn am awr neu ddwy.

Ar ôl tua pythefnos pan mae'r clai yn hollol sych, cynnau coelcerth y tu mewn i'r popty gyda'r blociau pren a'r coed tân am tua 5 awr, neu tan fod y clai yn galed fel terracotta. Mae'r popty yn barod i'w ddefnyddio. Buon appetito!


Am fwy o wybodaeth am sut i adeiladu popty pizza clai, cysylltwch â Menter Felin Uchaf.
Brigau helyg ar gael yma: www.trigonos.org.
Ychydig o wybodaeth am ddefnyddio'r popty pizza: http://transitionculture.org/2006/07/04/top-five-tips-for-successfully-firing-a-clay-pizza-oven/
Am ffordd ychydig yn wahanol o adeiladu popty clai: http://clayoven.wordpress.com/2008/08/29/1-building-a-clay-oven-the-basics/
