Neidio at y cynnwys

S4C

Eitemau

Bwrdd Mosäig

Os oes awr neu ddwy i'w sbario gyda chi pam na wnewch chi rhoi bywyd newydd i hen fwrdd drwy greu mosäig arno allan o hen blatiau? Gyda ychydig bach o ddychymyg mae unrhwybeth yn bosib!

Deunydd

  • Hen fwrdd
  • Platiau
  • Morthwyl
  • Blanced
  • Torrwr teils
  • Glud
  • Grout
  • 'Spwng a dŵr

Cam 1

Malwch y platiau gyda morthwyl! Cofiwch orchuddio'r platiau gyda blanced rhag ofn i'r darnau dasgu i bob man. Yn amlwg peidiwch malu'r platiau'n rhy fân - mae'n anodd creu mosäig allan o lwch!

Cam 2

Taenwch y glud ar hyd wyneb y bwrdd. Gwnewch yr ymyl i ddechrau.

Cam 3

I sicrhau ymyl llyfn i'r bwrdd rhowch ymyl y platiau o'i gwmpas. Byddwch yn ofalus wrth osod y darnau, unwaith mae nhw'n gorwedd yn eu lle â'r glud yn dechrau sychu bydd hi'n rhy hwyr i newid eich meddwl!

Cam 4

Rhowch weddill y darnau ar wyneb y bwrdd.

Tip: I gael y darnau bach i ffitio defnyddiwch dorrwr teils fel yr un sydd yn y llun.

Cam 5

Y cam nesa ydy rhoi'r grout rhwng y darnau. Byddwch yn hael â'r grout i sicrhau bod y craciau wedi'u llenwi.

Ar ôl ryw bum munud ewch ati i olchi'r grout oddi ar y bwrdd gyda dŵr a 'spwng.

Tip: Peidiwch gadel hi'n rhy hir cyn golchi'r grout i ffwrdd - os ydy'n caledu gormod bydd angen tipyn mwy o nerth bôn braich i'w sychu i ffwrdd.

Y bwrdd gorffenedig:

Does dim rhaid defnyddio platiau - beth am ddefnyddio cerrig, llechi, cregyn, gwydr lliw neu wydr o ddrych? (Byddwch yn ofalus iawn wrth drin gwydr!)

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales