Moron hirach na’ch breichiau!
Eisiau tyfu moron mor hir â’ch braich - neu hirach?!
Mae Russell am weld eich llysiau hir chi - rhowch dâp mesur wrth eu hyml, tynnwch lun ohonynt ac anfonwch y llun at Byw yn yr Ardd! post@bywynyrardd.net neu Byw yn yr Ardd, Cwmni Da, Hen Ysgol Aberpwll, Ffordd Bangor, Y Felinheli, Gwynedd LL56 4JS
Bydd detholiad o’r goreuon yn ymddangos ar y rhaglen ac yn cael eu rhoi fyny fan hyn ar y wefan!

1 Mae’r moron yn mynd i dyfu llawr yn hirach na’r biniau felly torrwch y gwaelod i ffwrdd.

2 Gwnewch dwll yn yr ardd tua 3 troedfedd o ddyfnder. Gallwch ei wneud yn ddyfnach os ydych eisiau, mae’n ‘dibynnu pa mor hir rydych chi eisiau’r moron!

3 Llenwch y twll a’r bin â thywod.

4 Defnyddiwch bolyn hir i wneud tyllau ar gyfer y moron.

5 Llenwch y tyllau hyn â chompost…ond…

6 …rhidyllwch y compost yn gyntaf - os bydd y moron yn cyffwrdd â darn caled o bridd byddant yn tyfu’n gam a bydd eich holl waith caled yn wastraff!

7 Rhowch 2 hadyn ym mhob twll ac ar ôl ‘chydig, tynnwch y gwanaf fel bod y cryfa yn cael y cyfle gorau i dyfu.

Nawr dim ond aros i’r moron i dyfu sy’n rhaid gwneud! (A chofiwch anfon llun ohonynt at Byw yn yr Ardd - manylion uchod.)
