Neidio at y cynnwys

S4C

Eitemau

Llygod Mawr!

Llygoden Fawr

Mae 'na broblem llygod mawr gyda Bethan yn Ffrwd-y-Gwyllt, felly dyma hi'n galw John Roberts o Gyngor Gwynedd am help. (Dyw'r lygoden fawr yn y llun ddim yn broblem i neb mwyach. gol.)

Cyngor John am sut i leihau'r tebygrwydd o ddenu llygod mawr.

  1. Cadwch eich sied yn daclus neu fe all y llygod guddio o dan hwn a'r llall am wythnosau cyn i chi sylwi eu bod nhw yna!
  2. Mae llygod mawr yn defnyddio ffosydd fel llwybrau felly os oes ffos yn mynd trwy'r ardd gyda chi – fel sydd gyda Bethan yn Ffrwd-y-Gwyllt – byddwch yn ymwybodol fod hyn yn gallu denu llygod mawr.

    Bethan John

  3. Mae'r compost yn gallu denu llygod mawr, ond mae compostio yn beth da felly dyma sut i leihau'r risg:
    • Peidiwch rhoi'r blwch compost wrth ymyl y gwrych!
    • Gwnewch yn siwr fod ymyl gwaelod y blwch compost yn gorwedd yn wastad ar y llawr!
    • Peidiwch gorlenwi'r blwch fel bod y compost yn gorlifo!
    • Ac yn fwyaf pwysig, cofiwch fod gwastraff o'r ty yn denu llygod mawr llawer mwy nag y mae gwastraff o'r ardd yn gwneud!
  4. Mae bwydo'r adar yn beth da ond mae rhoi gormod o fwyd allan yn denu llygod mawr. Dim ond hyn a hyn y mae'r adar yn gallu bwyta yn ystod y dydd. Meddai John “Tasa gennych chi'r camerau infrared allan yn y nos, buasech chi'n gweld pethe erill yn bwyta bwyd yr adar.”

Os ydych chi'n amau bod problem llygod mawr gyda chi, cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Sylwch! Mae rai cynghorau yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales