Eitemau
Creu Cysgodfa yn yr Ardd
Pam gwario arian ar gazebo pan fedrwch chi greu rhywbeth gyda thipyn mwy o gymeriad allan o hen bethau sy'n gorwedd o gwmpas y tŷ? Dyma ffordd dda i dreulio mwy o amser yn yr ardd, cysgodi rhag yr haul neu cadw'n sych rhag y glaw.Tip: Dewiswch le cysgodol, allan o'r gwynt!
Deunydd
Darn mawr o ddefnydd megis hen orchudd gwely, hwyl llong neu ddarn o hen farquee - hwn bydd yn ffurfio canopi'r gysgodfa. Wrth gwrs, os ydych yn awyddus i greu cysgodfa tywydd gwlyb yna dewiswch ddefnydd sy'n dal dwr!
- 4 sgwar o ddefnydd (mesuriadau yn 'dibynnu ar faint eich cysgdfa ond tua 30cm /12" sgwar oedd maint y sgwariau ar gyfer cysgodfa Byw yn yr Ardd).
- 4 stribed o ddefnydd (Yr un hyd ag un o ochrau'r sgwariau o ddefnydd).
- Offer gwinio
- 4 polyn a 4 darn o gordyn hir (eto, y mesuriadau yn dibynnu ar maint a siâp eich cysgodfa)
- 4 o begiau pabell
- 4 bachyn bychan a 4 cylch metel
- Addurniadau i siwtio eich thema.
Dyma gynllun cysgodfa Byw yn yr Ardd:

Cam 1
Cymrwych un o'r sgwariau bychan o ddefnydd a'i blygu yn ei hanner i greu siâp triongl. Y sgwariau yma bydd yn cryfhau corneli canopi'r cysgodfa.

Cam 2
Gwnïwch stribed o ddefnydd i lawr y canol gyda chylch metel ar y pen (fel yn y lluniau isod) - y cylchoedd fydd yn mynd am y bachau wrth gysylltu'r canopi i'r polion.

Dylai'r cornel edrych fel hyn

Cam 3
Gan ddefnyddio sialc, marciwch y man lle rydych eisiau i'r cornel i fynd ar y canopi. Defnyddiwch biniau i'w gadw yn ei le yna gwnïwch y cornel i'r canopi. Nawr gwnewech yr un peth gyda'r 3 cornel arall.

Sylwch: bydd angen i bigyn y triongl fod mewn llinell syth â chornel y canopi ond mi ddylai fod ryw droedfedd yn ôl oddi wrth y cornel fel y gall y defnydd sythrio dros y polyn megis sgert. (Fel yn y llun isod).

Cam 4
Llifiwch y polion i'r hyd sydd angen arnoch. Dewisodd Byw yn yr Ardd greu cysgodfa gyda naws 'nomadaidd' felly rhaid llifio dau bolyn hir a dau bolyn byr.
Tip: Cofiwch ychwanegu 3 modfedd os ydych am wthio'r polion i fewn i'r ddaear!

Cam 5
Gydag ychydig o fôn braich, sgriwiwch fachyn yn sownd i ben bob polyn a chlymwch gordyn hir i bob bachyn. Bydd y rhain, fel rhaffau pablell, yn cadw'r gysgodfa rhag syrthio. Rhowch y polion yn y ddaear yn unol a chynllun eich cysgodfa

Cam 6
Cysylltwch y canopi i'r polion drwy rhoi'r cylch metel dros y bachau.

Tip: Pan ydych yn cysylltu'r canopi i'r polion mae'n bwysig creu tensiwn yn y cordiau yn syth drwy dynnu pob cordyn yn dynn a chlymu un pen i beg gwersylla.

Cam 7 - Addurno'r Gysgodfa
Y cam olaf yw addurno eich cysgodfa! Fe allwch roi eich stamp bersonol arno yn llawer gwell nag y gallech petai wedi ei brynu. Mae thema morwrol yn berffaith os ydych yn defnyddio hwyl fel canopi ac mi fyddai thema Bedouin yn berffaith i greu teimlad o foethusrwydd yn enwedig petaech yn yfed te mintys ynddo! Roedd Byw yn yr Ardd eisiau rhoi blas eitha' egsotig i'r cysgodfa felly defnyddion ni liwiau cynnes o Forocco. O am gael tywydd cynnes Morocco hefyd…!


