Eitemau
Gêmau yn yr ardd

Mae'n wyliau haf unwaith yn rhagor ac mae'n rhaid diddanu'r plant am chwe' wythnos - a beth sy'n well na chael gêmau yn yr ardd? Dyma rhai syniadau - mae pob dim yn hawdd i'w gael ar y wê! (Y pris yn y cromfachau yw'r pris dalodd Byw yn yr Ardd - chwilotwch ac efallai cewch ddêl rhatach.)
Bowlio Corachod (£22.52)


Ydy'r corachod yn edrych braidd yn bryderus? Does dim rhyfedd, gyda'r set hon gallwch eu bowlio'n fflat!
Swingball (£15.99)


Mae'r hen ffefryn o'r wythdegau yn dal yn boblogaidd. Mae pawb yn cofio chwarae swingball - a chael bonclyst wrth y bêl os nad yn ofalus!
Paper Pod Teepee (£27.95)


Efallai'n deillio o'r syniad bod plant yn tueddu i chwarae gyda'r blwch yn hytrach na gyda'r anrheg drudfawr sydd ynddo, dyma dŷ bach twt allan o gardbord sydd wedi cael ei ailgylchu. Gall y plant baentio'r to a'r muriau!
(Mwy o ddewis o dai bach cardboard gan gynnwys iglw a roced!www.thenaturalstore.co.uk )
'Link 4' (£34.99)


Yn syml, rhaid cael 4 cownter o'r un lliw mewn rhes ond nid yw mor hawdd pan fo eich gwrthwynebydd yn ceisio eich atal rhag gwneud hynny! Gall oedolion gael yr un boddhâd allan o hon.
Coets Gardd (£9.97)


Yn 1360 gwaharddodd brenin Lloegr, Edward III, y gêm gan ddweud ei bod hi'n ffwlbri! Ond mae hi wedi parhau yn boblogaidd yng Nghymru, Yr Alban ac yn rhannau o Ogledd Lloegr. Mae gan yr Alban a Chymru gystadleuaeth ryngwladol flynyddol. ( Cymru v Alban nesa, Gorffennaf 25, 2009, Saron, Sir Gaerfyrddin.) Os ydych yn mwhynau chwarae coets yn yr ardd pam ddim chwarae'r gêm go iawn? Mwy o wybodaeth yma http://www.lindahome.co.uk/Quoits2/bwrddcymraeg2009.html
Sleid Ddŵr (£24.30)


('TP Aqua Slide' sydd yn y llun. Mathau eraill i'w cael.)
Y gêm orau heb os nac oni bai! Prynwch hon ac mi fydd y plant (a'r oedolion!) wrth eu boddau! (Bydd angen pibell ddŵr arnoch i gadw'r sleid yn wlyb.)
Nadredd ac Ysgolion (£29.35)


Gêm wedi ei chreu yn India er mwyn addysgu plant am effaith gweithredoedd da (ysgolion) ac effaith gweithredoedd drwg (nadredd). Mae'r elefen foesol wedi mynd ond mae'n dal yn gêm boblogaidd.
Roced Aer (£8.90)


3-2-1 Neidiwch! Neidiwch ar y pad piws a gwyliwch y roced yn saethu i'r awyr. Yn anhygoel, gall y roced gyrraedd uchder o 400 troedfedd.
Pêl-droed Anferthol (£4.49)


Gwych ar gyfer partïon, mae cael pêl fawr yn rhoi'r pwyslais ar gael hwyl yn hytrach nag ar chwarae'r gêm o ddifrif. (Dyw'r goal ddim yn gynwysedig.)
