Eitemau
Planhigion Egsotig Fferm Crug
Fferm Crug: www.crug-farm.co.uk
Dyma rhai o'r blodau y bu Bethan yn edrych arnynt ar Fferm Crug ger Caernarfon:
Enw Lladin
Euphorbia Mellifera
Gwlad
Madeira
Blodeuo
Mis Mawrth – Mai
Lliw
Melyn/Gwyrdd
Disgrifiad
Arogl mêl cryf. Angen cysgod rhag yr haul a gwyntoedd cryf. Tyfu i uchder o 2m mewn pridd sydd wedi ei ddraenio yn dda.
Enw Lladin
Lysichiton Americanus
Gwlad
Gogledd America
Blodeuo
Mawrth – Ebrill
Lliw
Melyn
Disgrifiad
'Yellow Skunk Cabbage'. Mae'r dail mawr melyn yn tyfu at uchder o 1.5m. I'w blannu mewn pridd gwlyb.
Enw Lladin
Erythronium Pagoda
Gwlad
Gogledd America
Blodeuo Mawrth
Mai
Lliw
Gwyn
Disgrifiad
Perthyn i deulu'r lili. Mae'n tyfu orau o dan goed.
Enw Lladin
Anemone Nemorosa – Alba Plena
Gwlad
Ewrop
Blodeuo Ebrill
Mehefin
Lliw
Gwyn
Disgrifiad
Hawdd i'w dyfu mewn unrhyw bridd ffrwythlon, sydd ddim yn rhy sych. Mae'r blodyn yn tyfu hyd at 15cm o uchder ac yn lledaenu hyd at 30cm.
Enw Lladin
Chrysosplenium Davidianum
Gwlad
Himalayas
Blodeuo
Mawrth – Mehefin
Lliw
Melyn
Disgrifiad
Tyfu mewn pridd llaith, asidig. Mae'n tyfu fel carped bythwyrdd ac yn blodeuo yn y gwanwyn.
Enw Lladin
Aristolochia Manshuriensis
Gwlad
De Korea
Blodeuo
Mai – Gorffennaf
Lliw
Melyn
Disgrifiad
'Dutchman's Pipe'. Dringwr cryf. Mae'r planhigyn cigysol hwn yn trapio pryfaid er mwyn ffrwythloni ei hun.
Enw Lladin
Holboellia Coriacea
Gwlad
Tseina
Blodeuo
Ebrill – Mehefin
Lliw
Piws, Gwyrdd golau
Disgrifiad
Dringwr bythwyrdd sy'n tyfu i uchder o 6m. Cynhyrchu blodau gwrywaidd piws/gwyrdd golau a blodau benywaidd gwyrdd golau yn y gwanwyn sydd yn troi i mewn i ffrwythau bwytadwy siap selsig. Angen cysgod rhag wyntoedd oer.
