Eitemau
Jam Dilys Morgan
Dyma rysait wrth Dilys Morgan o Fferm Alltgoch, Tal-y-bont, Ceredigion.
Jam Damson

Cynhwysion
- 4 pwys 12 owns (2.16kg) o ffrwyth damson.
- 1 peint o ddŵr
- 6 pwys o siwgwr
Camau 1
Rhowch yr eirin mewn sospan addas yna ychwanegwch beint o ddŵr.
Camau 2
Rhowch y dŵr a'r eirin ar y tân – peidiwch rhoi'r gwres yn rhy uchel. Os yw'r eirin wedi eu rhewi yna byddant yn cymryd ryw 45 - 60 munud i ddadleth a choginio.
Camau 3
Rhowch y siwgr yn y ffwrn i gynhesu cyn ei ychwanegu at y dŵr a'r ffrwyth. Mae'r siwgr yn toddi yng nghynt os ydyw wedi ei gynhesu.

Camau 4
Wedi i'r jam ferwi y peth nesa i wneud ydy gweld pa mor agos ydyw i setio. Ffordd rhwydd o wneud hyn, yn ôl Dilys, ydy dal y llwy i fyny a gweld os ydy'r jam yn glynnu wrthi. Os ydyw, yna fe ddylai fod yn barod i setio.

Camau 5
Yn anorfod mi fydd yna haenen o ysgum ar wyneb y jam. Mae modd ei godi ond mae llawer o'r ffrwyth yn cael eu colli ar yr un pryd drwy wneud hyn. Ateb Dilys i'r broblem ydy ychwanegu ychydig o fenyn a throi'r cymysgedd yn gyflym. Mae hyn yn cael gwared arno.

Camau 6
Gadewch y jam i oeri am ryw hanner awr neu fwy.

Camau 7
Un troiad wedyn a mewn i'r jar a fe! Mwynhewch!


