Eitemau
Siytni Betys Dilys Morgan

Cynhwysion
- Dau bwys o fetys wedi berwi a'u torri yn ddarnau mân
- 1 pwys o afalau wedi eu torri'n ddarnau mân
- Hanner pwys o winwns ('nionod) wedi eu torri'n ddarnau mân
- Croen a sudd lemwn
- Llwyed o sinsir mân (powdwr)
- Pupur a halen
- Peint o fineg
- Hanner pwys o siwgwr
Nodyn! Er mwyn osgoi trychineb yn y gegin fel ag y profodd Bethan, cofiwch ferwi'r betys yn gynta!!
Cam 1

Cymysgwch yr afalau, winwns, y fineg, y sinsir a'r pupur a halen mewn sosban addas yna ychwanegwch groen a sudd y lewmwn a rhowch y cyfan i ferwi.
Cam 2

Ar ôl i'r cyfan ferwi am tua hanner awr, â'r fineg wedi cael ei ymsugno gan yr afalau a'r winwns, ychwanegwch y betys a'r siwgr. Sylwch! Mae'n rhaid i'r afalau a'r winwns fod wedi meddalu cyn ychwanegu'r betys.
Cam 3
Berwch y cyfan eto ac unwaith bydd y siwgr wedi toddi bydd y siytni yn barod.
Tipiau Dilys

Peidiwch rhoi'r siytni yn y jariau yn eirias boeth am fydd y gwydr yn torri! Ond peidiwch chwaith a gadel i'r siytni oeri yn llwyr cyn ei rhoi i mewn yn y jariau.
Peidiwch gadael pocedi o awyr yn y jar - bydd hyn yn sychu'r siytni a'i wneud yn galed.
