
Dwi wedi ailddechrau garddio o'r diwedd. Clirio, chwynnu, tocio ac ati. Mae'r lle'n edrych mor foel ar hyn o bryd, ond mae'r lili wen fach i fyny ac mae na ambell fflach o liw yma ac acw (dwi jest ddim yn cofio be oedd eu henwau nhw). Mi fydd y cennin pedr i fyny to, a gweld rheiny sy'n fy ysbrydoli i fwynhau'r ardd eto fel arfer.
Does gen i affliw o ddim yn y patsh llysiau, a dim amser i feddwl am lysiau chwaith. Ond dwi wedi plannu coed ffrwythau... efo help Russell a'i frawd James. Mi fuon nhw acw ddoe yn clirio'r gornel bella i mi, oedd yn ddrain a mieri i gyd. Dyma nhw wedi mynd drwy'r cwbl lot. 
Bechod mod i'm wedi meddwl tynnu llunau 'before & after' ond roedden nhw mor sydyn! Ac er fod ganddyn nhw fenyg, mi gawson nhw eu rhwygo'n rhacs. Braich James ydi hon:

Perllan sydd yno bellach: coeden geirios, coeden apricots (bricyll) ac eirin Fictoria. Dim ond gweddio y byddan nhw'n hapus yno ac yn ffynnu. Pan rois i nhw mewn bwced o ddwr wedi iddyn nhw gyrraedd yn y post - mi rewodd y bali peth yndo. Ond mae Russell yn deud na ddylai hynny eu ladd nhw gan eu bod nhw'n dormant beth bynnag. Dwi'n croesi mysedd run fath...
Maen nhw'n addo y bydd gen i ffrwythau o fewn y flwyddyn... hm. Os gai, mi fyddai wedi gwirioni.