Mi gawson ni dipyn o wersi gan y Rhufeiniaid; sut i wneud concrit yn un peth mae'n debyg. Nid ein bod ni'n argymell gerddi concrit wrth gwrs - rhaglen werdd ydan ni!
Ond o ddifri, y Rhufeiniaid oedd rhai o'r bobl cynta i ddefnyddio'u gerddi fel llefydd i ymlacio a mwynhau eu hunain. Mi fydden nhw'n eu haddurno efo pob math o bethau, yn cynnwys planhigion lliwgar, cerrig a photiau - o, a choncrit...wir yr - er mwyn gwneud 'triclinium'. Sef y gazebo cynta am wn i. Dyma fi yn mwynhau triclinium a thipyn o rawnwin yn y dull Rhufeinig:

Yng Nghaerllion/Caerleon oedden ni, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, lle maen nhw wedi agor gardd Rufeinig i ni'r cyhoedd gael gweld sut fyddai Cesar & co yn garddio. Roedd hi'n hanner tymor felly roedd y lle'n llawn o deuluoedd a phlant yn cael modd i fyw yn gwisgo i fyny fel milwyr Rhufeinig - ond dwi'm yn cael rhoi lluniau o blant ar y we. Argol, rydan ni'n byw mewn oes od. Roedden nhw mor blincin ciwt - er eu bod nhw'n waldio'i gilydd yn rhacs. Doedd fiw i ni eu ffilmio chwaith.
Ta waeth, dyma lun o'r ardd yn wag: 
Mae'r staff yn gwisgo i fyny fel Rhufeiniaid a dyma Dai Price o'r adran addysg yn dangos sut i drin rhaw Rufeinig.
Roedd eu rhawiau nhw'n wahanol iawn i'n rhawiau ni heddiw. A sôn am rawiau, dwi wedi cael yr anlwc rhyfedda: mi dorrodd fy hen raw ffyddlon llynedd felly mi brynais un newydd yn y Sioe Sir. Ond wrth brynu hufen ia, nes i anghofio'r rhaw wrth y stondin a weles i byth mohoni wedyn. Felly ges i un arall yn bresant Dolig gan fy chwaer. Chwip o raw, ond fues i'n ddigon dwl i'w gadael allan yn yr ardd dros nos - ac mae na ryw grinc wedi ei dwyn hi! Dwi newydd brynu un arall - ac yn ei chloi yn y sied BOB NOS.











