Adeg yma o'r blwyddyn mae garddwyr yn fwy ymwybodol byth o sut mae rhannu gwerthoedd garddio- wrth rhannu'r cynhaeaf wrth gwrs, gyda gluts mawr o bob math o bethau. Dwi innau o hyd yn stwffio bagiau papur gyda tomatos gwyrdd er mwyn eu cadw nhw trwy'r gaeaf, ac er nad oes cnwd aruthrol da fi yn bersonol dwi di bod yn cymryd pob cyfle i wahodd ffrindiau i rhannu'r prydau o'r ardd, fel y gallai efengylu am safon eu blas! Mae hi'n dymor bwysig hefyd i ddechrau cynllunio at y blwyddyn nesaf. Cynllun mawr fi yw i dod yn fwy drefnus, ar ol colli gymaint o lysiau i'r smalwod dwi wedi penderfynu bod angen i ardd llysiau bod yn hynod o daclus. Y Cyngor dwi di cael amdan garddio'n organig yw bod eisie hoead y chwyn bach er mwyn cadw'r pridd yn lan o amgylch y llysiau fel bod cynlleiad o gynefin iddyn nhw cael cuddio ynddo. Mae hyn mond yn rhan o'r brwydr, mae'n weth cadw traps o cwrw wrth gwrs, ac mae cynifer o ffynhonellau wedi hysbysu imi bod eisie jest pigo nhw o'r man a'r lle gyda llaw pan fu nosi neu bwrw glaw. "Ffrind gorau'r garddwr yw ei gysgod" yw'r ddywediad- hynny yw, mae eisie bod yna pob dydd a gwario'r amser yn sicrhau bod popeth yn mynd yn iawn. Yn sgil hyn, dwi wedi derbyn gwahoddiad i rhannu darn o rhandir (sydd ger Ysgol Griffin- handi!) blwyddyn nesaf gyda teulu ifanc arall er mwyn rhannu'r cyfrifoldebau o magu plant a llysiau iachus. Mae nhw fath a fi wedi cael trafferthion gyda'u plot eleni ers genedigaeth Daisy mis medi diwethaf. Roedden ni i gyd gytun bod eisie fwy o drefn arnyn ni i gyflawni hyn! Mae'r ffaith y buase fe ar fy nhaith beunyddiol yn golygu bod gyfle uwch y gallai bwrw fy ngysgod arno po amal ag yr anghenwyd!
Mae hyn yn gadael y cwestiwn o beth fydd yn digwydd gyda'r rhandir arall? Mae tyfu llysiau wrth gwrs yn ganolig yn fy mwriadau at yr ardd yno er mwyn gallu cwtogi ar ein olrhain carbon ni fel teulu, ond wrth gwrs mae perlysiau yn bwysig i unrhywun sy'n coginio bwyd gartref yn ffresh hefyd, a does dim gardd yn gyflawn heb goed ffrwythau. Y cynllun ydy felly i gadw'r hen rhandir yn cymharol 'wyllt' gyda'r coed a'r perlysiau a'r blodau, y math o garddio sy'n siwtio'r safle arbennig yno ar ochor mynydd, ac i gael gardd cwta ar safle isel cysgodol a heulog yn berffaith i magiant llysiau!!