Neidio at y cynnwys

Cofrestru

Byw yn yr Ardd :: Blog ::

Medi 08, 2008

Ydych chi’n garddio neu’n defnyddio’ch gardd i ymlacio? Ydych chi eisiau i griw Byw yn yr Ardd i ymweld â’ch gardd chi? Cysylltwch! post@bywynyrardd.net neu 01286 685 300.

 

Mae rhaglen ola'r gyfres hon yn cael ei darlledu ar nos Iau yr 11eg o Fedi. Arni bydd Russell ym mherfeddion tywylla Sir Aberteifi yn blasu gwin wedi ei wneud gan gymeriad unigryw -  Islwyn Iago o Felingwm.

Mae Islwyn yn gwneud ei win allan o'r hyn y mae'n ei dyfu yn yr ardd ac mae e wedi ennill gwobrau am y ddiod. Dim gwobr i Russell fodd bynnag, mae'r ddiod yn amlwg yn gryfach nag oedd yn tybio!

 ------------------------------------------------------------------------------------------------------

Ydych chi'n gwybod sut i atal cathod i wneud eu busnes yn yr ardd? Mae 'Grug', aeolod o'r gymuned, yn gofyn am unrhyw dip a all helpu. Os oes tip gydach chi iddi, ysgrifennwch ar ei wal.

 

Postiwyd gan Byw yn yr Ardd

Mae'n rhaid i chi fewngofnodi er mwyn postio sylw.