Os ydych chi wedi laru â'r glaw gwyliwch Rhaglen 9, 20:25 nos Iau 21ain ac fe gewch weld ychydig o haul!
Nol ar ddechrau mis Mehefin bu'r criw yn ffilmio'r cneifio ar fferm Brian ac Anwen ger Synod Inn yng Ngheredigion. Credwch neu beidio roedd y tywydd yn ddigon da i gael barbeciw!
Hefyd ar rhaglen 9 cewch weld pentre Ysbyty Ifan yn Sir Conwy yn cystadlu yng nghystadleaeth Cymru yn ei Blodau, ewch i'w gwefan am fwy o fanylion os hoffech chi neu'ch pentre gystadlu y tro nesaf.
'Bali fflipin glaw' ydy teitl blog diweddara Bethan Gwanas. Does dim gwobrau am ddyfalu am be mae hi'n son.