Neidio at y cynnwys

Cofrestru

Byw yn yr Ardd :: Blog

Rhagfyr 17, 2008

Cofiwch wylio'r Rhaglen Nadolig ar Ddydd Sul 21ain am 16:35 (ail ddarllediad) neu fe allwch ei gwylio dros y we ar Clic  tan 21 o Ionawr 2009. 

I ddathlu'r Nadolig cewch lawrlwytho papur wal o Russell yn ei het Siôn Corn i rhoi ar eich cyfrifiadur, cewch hefyd rhoi 'ringtones' ar y ffôn - cliciwch Lawrlwytho i weld mwy.

Heb brynu'ch anrhegion eto? Peidiwch mynd i banig, mae Russell wrth law i helpu! Cymrwch olwg ar 10 Ucha'r 'Dolig i gael syniadau.  

 

Postiwyd gan Byw yn yr Ardd | 0 sylw(adau)

Hydref 31, 2008

Na, nid Sion Corn ond Russell mewn het y mae wedi gweu ei hun! Mae gweu yn un o ddiddordebau’r dyn o Rhosgadfan, gobeithio cawn ni y patrwm ganddo i’w rhoi ar y gwefan cyn bo hir.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r ffilmio ar gyfer rhifyn Nadolig o Byw yn yr Ardd yn mynd yn ei flaen. Yr wythnos diwetha cafodd y patch yn Rhosgadfan ychydig o eira, roedd yn beth da bod siacedi gan y ddau gi, Derwen a Seren. Ond er y siacedi roedd y ddau’n rhy oer ac mi fu’n rhaid iddynt fynd adre am hanner dydd!

Postiwyd gan Byw yn yr Ardd | 0 sylw(adau)

Medi 15, 2008

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dyma gartwn o Russell gan Cen Williams a ymddangosodd yng nghylchgrawn Golwg yn ddiweddar - da te!! 

Postiwyd gan Byw yn yr Ardd | 0 sylw(adau)

Medi 08, 2008

Ydych chi’n garddio neu’n defnyddio’ch gardd i ymlacio? Ydych chi eisiau i griw Byw yn yr Ardd i ymweld â’ch gardd chi? Cysylltwch! post@bywynyrardd.net neu 01286 685 300.

 

Mae rhaglen ola'r gyfres hon yn cael ei darlledu ar nos Iau yr 11eg o Fedi. Arni bydd Russell ym mherfeddion tywylla Sir Aberteifi yn blasu gwin wedi ei wneud gan gymeriad unigryw -  Islwyn Iago o Felingwm.

Mae Islwyn yn gwneud ei win allan o'r hyn y mae'n ei dyfu yn yr ardd ac mae e wedi ennill gwobrau am y ddiod. Dim gwobr i Russell fodd bynnag, mae'r ddiod yn amlwg yn gryfach nag oedd yn tybio!

 ------------------------------------------------------------------------------------------------------

Ydych chi'n gwybod sut i atal cathod i wneud eu busnes yn yr ardd? Mae 'Grug', aeolod o'r gymuned, yn gofyn am unrhyw dip a all helpu. Os oes tip gydach chi iddi, ysgrifennwch ar ei wal.

 

Postiwyd gan Byw yn yr Ardd | 0 sylw(adau)

Medi 01, 2008

Gwagio'r pwll. Hmm, dim ond 12 awr o waith ar ol!

Yn rhaglen nos Iau y 4ydd o Fedi byddwn yn ymweld â'r Ynys Byr oddi ar Sir Benfro ac yna'n mynd i ben arall y wlad, i Borthaethwy ar Ynys Môn, i weld Anna Elwyn Jones yn troi'r pwll pysgod yn 'ardd cors'. Uchod gallwch weld y gwaith o wagio'r pwll yn mynd yn ei flaen, ar y dde mae ffrwyth y llafur caled.


Bethan Gwanas ac Anna Elwyn Jones ar ol diwrnod caled o waith!

Postiwyd gan Byw yn yr Ardd | 0 sylw(adau)

Awst 29, 2008

Y criw ffilmio yn barod i fynd i'r afael â chychod gwenyn Carys Edwards a oedd ar rhaglen 10. Cofiwch y gallwch weld y rhaglen gyfan ar safle S4C am 35 diwrnod ar ôl iddi gael ei darlleldu. 

Bethan Gwanas a gwenynen Gymreig ffyrnig ar ei bys. Ar y chwith, Deian y dyn sain yn edrych ymlaen at y ffilmio! Cliciwch ar y lluniau i weld mwy yn oriel lluniau Bethan Gwanas.

 

 

Postiwyd gan Byw yn yr Ardd | 0 sylw(adau)

Awst 27, 2008

Cofiwch am rhaglen 10, nos Iau 28ain am 20:25! Mae Bethan yn dysgu am blanhigion 'Wicca' a gwenyn Cymreig ffyrnig tra fo Russell yn adeiladu pwll patio yng Nghasnewydd.

 

Brwno a Saba sy uchod. Anifeiliaid anwes aelod o'r gymuned, Dilys Evans.

 

Yn ddiweddar bu Del, gast Bethan Gwanas (ar y chwith), yn sioe Rhydymain ac mi naeth hi'n reit dda! Cewch fwy o hanse ym mlog diweddara Bethan, "Roedden ni'n ffilmio Sioe Rhydymain ddoe - argol, diwrnod hir - ond coblyn o hwyl!..."

Postiwyd gan Byw yn yr Ardd | 0 sylw(adau)

Awst 26, 2008

 Cofiwch am rhaglen 10, nos Iau 28ain, am 20:25. Mwy o wybodaeth cyn bo hir.

 

Dyma luiau o Islwyn Iago, o Sir Aberteif, yn gwneud gwin allan o lysiau y mae'n tyfu yn yr ardd. Bydd Islwyn yn ymddangos ar rhaglen 12, ar y 11 o Fedi.  

Does dim byd yn plesio garddwyr cymaint a defnyddio cynyrch eu llafur. Mae mam ein blogwraig Catrin Doyle wedi bod yn gwneud chutney allan o'r tomatos mae Catrin yn tyfu ar ei rhandir ym Mhontypridd. Dyma'r rysait:

"2lb Tomatoes gwyrdd, heb croen
8 owns Wynwns, wedi'i rasu (handi eto achos roedd gan fy wynwns pitw bach pydredd o rhyw fath- digon bwytadwy ond anaddas i'w storio)
1/2 peint o finegar
8 owns o afalau
8 owns o siwgr
llwyaid bach o sbeis at piclo a halen.
Mae'n hyfryd ffordd mae'r sgiliau garddio a sgiliau coginio yn mynd llaw yn llaw!" darllenwch flog Catrin

 

Postiwyd gan Byw yn yr Ardd | 0 sylw(adau)

Awst 20, 2008

Os ydych chi wedi laru â'r glaw gwyliwch Rhaglen 9, 20:25 nos Iau 21ain ac fe gewch weld ychydig o haul!

Nol ar  ddechrau mis Mehefin bu'r criw yn ffilmio'r cneifio ar fferm Brian ac Anwen ger Synod Inn yng Ngheredigion. Credwch neu beidio roedd y tywydd yn ddigon da i gael barbeciw!

Hefyd ar rhaglen 9 cewch weld pentre Ysbyty Ifan yn Sir Conwy yn cystadlu yng nghystadleaeth Cymru yn ei Blodau, ewch i'w gwefan am fwy o fanylion os hoffech chi neu'ch pentre gystadlu y tro nesaf.

'Bali fflipin glaw' ydy teitl blog diweddara Bethan Gwanas. Does dim gwobrau am ddyfalu am be mae hi'n son. 

Postiwyd gan Byw yn yr Ardd | 0 sylw(adau)

Awst 15, 2008

Yn rhaglen 8 bu Bethan Gwanas a dwy arddwraig guerrilla yn sleifio o gwmpas Porthmadog yn taflu bomiau hadau, gwnewch chi yr un peth!  

Dyma sydd angen:

1)    Clai ar ffurf powdwr
2)    Compost
2)    Hadau blodau gwyllt sy’n gynhenid i’r ardal
3)    Dŵr
4)    Padell neu fwced i gymysgu pob dim

Bethan a'r merched yn paratoiRholio'r bom hadau 

 Sut i wneud y bom:

1)     Mewn padell neu fwced rhowch 5 rhan o bowdwr clai
2)     Ychwanegwch 1 rhan o gompost a 1 rhan o hadau
3)     Ychwanegwch ddŵr fesyl diferyn – mae’n bwysig i ychwanegi ond digon i alluogi         gwneud peli allan o’r gymysgedd. Peidiwch rhoi gormod neu bydd y cymysgedd yn rhy wlyb.
4)      Rholiwch y cymysgedd i mewn i beli bychan a gadewch iddynt sychu am ychydig.

Nawr dewch o hyd i ddarn o dir diffaeth a thaflwch y bomiau! Cofiwch, dydy nhw ddim i fod i agor wrth daro’r llawr. Yn raddol, wrth iddi lawio, bydd yr hadau’n egino a’r clai yn cael ei olchi i ffwrdd.

Dewis targed   

Mwy o wybodaeth am arddio guerrilla (Saesneg yn unig): www.guerrillagardening.org



Postiwyd gan Byw yn yr Ardd | 0 sylw(adau)

<< Yn ol