Neidio at y cynnwys

S4C

Mewngofnodi:

Enw Defnyddiwr 

Cyfrinair 



Cofrestru
Gwylio Yma

Rhaglen Nadolig
16/12/2008

Sharon

wps, oni ddim yn sylwi pan neishi gofrestru, mod i'n gorfod neud hyn! Meddwl mai mond pobol ifanc oedd yn chwara efo blogs ag ati.... ha, dyma fi wrthi rwan, bydd rhaid stopio swnian ar y plant rwan.

Eniwe, ddim rili ffansi deud fy hanes wrth pawb, ond mi nai sharad efo chi am yr yps a'r downs o garddio yma. Does gen i ddim ardd lyfli fel Bethan Gwanas, felly ofn ei ddangos. A deud y gwir, dwi heb sortio lluniau allan chwaith.

Safle adeiladu oedd yr ardd hanner blwyddyn yn ol, felly gai ddefnyddio hynny fel esgis....

Blwyddyn yma mae gen i lot o datws, lot o garlic, nionod, cenin, dipyn o spinach (sori, ddim amser mynd i'r geiriadur), riwbob, a ffrwythau. Dim byd yn ffantastig (heb law am y garlic a'r tatws), ond gai bryd bach allan o bob dim. Ambell o bwdin o'r riwbob. Wedi peilio LOT fawr o dail (dim petha sy'n tyfu ar goed) ar bob dim yn ddiweddar, braidd yn hwyr, ond yn disgwl 'miracles' rwan.

a lot o betha eraill pan gen i'r amser, cerdded, darllen, garddio wrth gwrs, teithio pan gen i bres, yoga