Neidio at y cynnwys

S4C

Mewngofnodi:

Enw Defnyddiwr 

Cyfrinair 



Cofrestru
Gwylio Yma

Rhaglen Nadolig
16/12/2008

Cymorth

Beth yw Byw yn yr Ardd?

Rhaglen ar S4C a chymuned ar-lein i bawb sy'n hoff o dreilio amser yn yr ardd yn cael barbeciw, tyfu llysiau, cadw gwenyn, darllen yn y sied, ymlacio yn y jacwsi - pob dim sy'n digwydd yn yr ardd!

Lle alla i weld y rhaglen?

Mae Byw yn yr Ardd ar S4C bob nos Iau am 8:25 o Fehefin y 5ed. Bydd y rhaglen ar gael i'w gwylio dros y we o safle S4C am 35 diwrnod ar ôl iddi gael ei darlledu.

Pam ymuno â'r gymuned?

Mae'r gymuned yn rhoi cyfle i bawb rhannu lluniau, rhannu tips garddio, ffurfio grwpiau o bobl sy'n cadw gwenyn neu'n bragu cwrw yn y sied neu'n tyfu tatws. Mae'n le y gall pobl ddod o hyd i bobl eraill o'r un diddordebau.

Y Gymuned

Sut mae ymuno â'r gymuned?

  1. Ar hafan ddalen Byw yn yr Ardd (www.bywynyrardd.net) pwyswch y botwm 'cofrestru' sydd ar frig y dudalen.
  2. Rhowch eich enw a'ch cyfeiriad ebost yn y blychau priodol. Pwyswch y botwm cofrestru. Bydd côd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad ebost.
  3. Ewch i mewnflwch eich ebost, agorwch y neges oddi wrth Byw yn yr Ardd (bydd yn dweud 'Gwirio cyfrif Byw yn yr Ardd' yn y llinell testun (subject)). Cliciwch ar y côd sydd yn y neges.
  4. Cewch nawr eich tywys i dudalen 'Ymuno â Byw yn yr Ardd'. Llenwch y blychau priodol.
    Enw: eich enw (hwn fydd yr enw a fydd yn ymddangos ar y sgrin o dan eich llun proffil.(ee Meilyr Harris)

    Eich enw defnyddiwr: Rhaid iddo fod rhwng 3 a 12 nod ac yn cynnwys llythrennau a rhifau yn unig. (ee.MeilyrH neu MHarris neu MeilyrHarris neu MeiHar6). Sylwch ni all gynnwys gofod felly ni ellir defnyddio Meilyr H neu Mei Harris. Hwn fydd yr enw y byddwch yn ei ddefnyddio i fewngofnodi.

    Nodwch gyfrinair:rhwng 6 a 16 nod gan ddefnyddio llythrennau a rhifau.

    Eich cyfrinair eto at ddiben gwirio: Nodwch yr un cyfrinair eto. Gwnewch yn sicr fod y ddau gyfrinair yn cyfateb.
  5. Cliciwch ar y blwch i gytuno eich bod o leiaf yn ddeunaw.
  6. Pwyswch y botwm 'Ymuno' ac fe gewch neges yn dweud bod eich cyfrif wedi cael ei greu. Rydych nawr yn aelod o gymuned Byw yn yr Ardd! Llongyfarchiadau! Mewngofnodwch trwy ddilyn y camau isod.

Sut alla i fewngofnodi?

  1. 1 Yn y blychau ar frig y dudalen rhowch eich Enw defnyddiwr a'ch cyfrinair. Eich enw defnyddiwr ydy'r un y dewisoch wrth gofrestru gyda Byw yn yr Ardd. (ee. MeilyrH neu MeiHar6)
  2. Ticiwch y blwch 'cofio fi' er mwyn i'r cyfrifiadur eich cofio.(Wrth wneud hyn, bob tro byddwch yn dod i safle Byw yn yr Ardd , byddwch wedi mewngofnodi'n awtomatig.)

    Os nad ydych chi eisiau i'r cyfrifiadur i gofio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair (ee, efallai eich bod yn defnyddio cyfrifiadur mewn lle cyhoeddus megis llyfrgell) yna tynnwch y tic o'r blwch trwy glicio arno.
  3. Pwyswch y botwm ag arno ddwy saeth sydd a dyna ni, fe fyddwch wedi mewngofnodi.

    Nawr fe allwch ddefnyddio elfennau'r gymuned sydd wedi'u rhestru isod. Pob hwyl!


Blog

Beth ydy blog?

Dyddiadur ar-lein lle y gallwch chi ysgrifennu cofnodion am eich wythnos yn yr ardd. Gallwch ychwanegu lluniau a dolenni.

Sut mae ysgrifennu blog?

  1. Cliciwch ar 'Eich Blog' yng nghornel chwith y ddewislen ar frig y dudalen.
  2. Pwyswch 'Postio cofnod newydd'.
  3. Ysgrifennwch eich blog yn y blwch testun.
  4. Ysgrifennwch rhai allweddeiriau yn yr ail flwch testun. Er enghraifft os yw'ch blog yn sôn am adeiladu sied yn rhowch allweddeiriau megis: sied, adeiladu, yn y blwch testun. Bydd defnyddwyr eraill yn gallu dod o hyd i'ch blog yn haws os defnyddiwch allweddeiriau.
  5. Cofiwch newid 'Cyfyngiadau Mynediad', rhowch ar 'preifat' os nad ydych am i unrhywun arall ddarllen eich blog; rhowch ar 'cyhoeddus' os ydych am i bawb ddarllen eich blog.
  6. Pwyswch y botwm 'Cyhoeddi'. Mae eich post blog yn awr wedi'i gyhoeddi.

Sut mae rhoi llun yn testun fy mlog?

  1. Rhaid i'r llun fod wedi ei lwytho i fyny i'ch storfa lluniau. I wneud hyn gweler 'Sut mae llwytho llun i fyny?', yn yr adran lluniau, isod.
  2. Pwysych 'ychwanegu llun'. Mi fydd ffenest yn agor ac ynddi rhester o'ch lluniau.
  3. Dewisiwch y llun y dymunwch ei gynwys yn y blog. Bydd y ffenest yn cau a'r llun yn awr yn rhan o'ch blog.

    Hefyd, gallwch mewnosod llun drwy bwyso'r botwm 'mewnosod/golygu delwedd' sydd ar y bar offer - mae llun coeden arno. Yna ychwanegwch URL y ddelwedd i'r blwch priodol. Cewch hyd i URL y llun drwy glicio ar fotwm dde y lygoden pan yn hofran dros y llun. Yna dewiswch 'copy image location'.

Calendr

Sut alla i roi ddigwyddiadau yn fy nghalendr?

  1. Pwyswch y bowtwm 'Eich Calendr' sydd ar y ddewislen ar frig y dudalen.
  2. Pwyswch 'Ychwanegu digwyddiad newydd'.
  3. Llenwch y blychau â'r wybodaeth briodol.
  4. Cofiwch newid 'Cyfyngiadau Mynediad', rhowch ar 'preifat' os nad ydych am i unrhywun arall weld eich digwyddiad; rhowch ar 'cyhoeddus' os ydych am i bawb weld eich digwyddiad.
  5. Pwyswch 'Cadw digwyddiad'. Bydd y digwyddiad nawr yn eich calendr.

Lluniau

Rhannu lluniau yw un o bleserau mawr cymuned Byw yn yr Ardd!

Sut mae llwytho llun i fyny?

  1. 1 Cliciwch ar y botwm 'Eich Lluniau' ar y ddewislen ar frig y dudalen
  2. Ewch lawr y dudalen i'r adran sy'n dweud 'Lluniau i'w llwytho i fyny' yna chwiliwch am eich llun ar eich cyfrifiadur drwy wasgu'r botwm 'Pori'.
  3. Cofiwch newid 'Cyfyngiadau Mynediad', rhowch ar 'preifat' os nad ydych am i unrhywun arall weld y llun; rhowch ar 'cyhoeddus' os ydych am i bawb weld y llun.
  4. Ticiwch y blwch!
    Mae ticio'r blwch yn golygu eich bod yn datgan bod gennych yr hawl gyfreithiol i rannu'r lluniau hyn, a'ch bod yn deall eich bod yn eu rhannu â defnyddwyr eraill Byw yn yr Ardd.
  5. Pwyswch 'llwytho' a dyna ni!

Rhwydwaith

Yma dewch o hyd i grwpiau a ffrindiau.

Grwpiau

Pam creu grŵp?

Trwy greu grŵp fe allwch ffurfio cymuned o bobl sydd yn rhannu'r un diddordeb. Er enghraifft, os ydych yn mwynhau cael barbeciw ac eisiau rhannu gwybodaeth am sut i goginio byrger yn berffaith ar y barbeciw yna byddai creu grŵp yn rhoi cyfle da i chi i wneud hynny.
Moron yw'ch prif ddiddordeb? Creuwch grŵp ac fe ddowch ar draws pobl a'r un diddordeb. Rhowch luniau o'ch moron ar dudalen y grŵp ac fe gewch weld lluniau o foron defnyddwyr eraill.

Sut mae creu grŵp?

  1. Pwyswch y botwm 'Eich Rhwydwaith'
  2. Ar y dudalen a fydd yn agor, pwyswch y botwm 'Eich Grwpiau (perchennog)'
  3. Yn y blychau mewbwn priodol rhowch enw'r grŵp a enw defnyddiwr i'r grŵp.
  4. Pwyswch y botwm 'Creu'.
  5. Llenwch y blychau â manylion priodol am y grŵp
  6. Pwyswch y botwm 'Cadw'ch proffil'. Llongyfarchiadau, rydych nawr yn berchennog ar grŵp.

Dwi wedi creu grŵp, sut mae gwahodd pobl i ymuno?

  1. Pwyswch y botwm 'Eich Rhwydwaith' sydd ar y ddewislen ar frig y dudalen
  2. Pwyswch y botwm 'Eich Grwpiau (perchennog)'
  3. Dewisiwch un o'r grwpiau yr ydych yn berchennog arnynt drwy glicio llun/eicon y grŵp.
  4. Nawr rydych ar dudalen y grŵp. Cliciwch ar 'Gwahodd pobl'.
  5. Rhowch enwau eich ffrindiau yn y blwch a pwyswch y botwm 'chwilo'.
  6. Rhowch dic wrth enw eich ffrind a pwyswch y botwm 'gwahodd'.

Ffrindiau

I ddod o hyd i ffrindiau, chwiliwch amdanynt drwy rhoi eu henwau yn y blwch chwilio sydd bob amser ar waelod chwith y dudalen.
Cliciwch ar enwau eich ffrindiau ac fe gewch fynd i'w tudalennau. O dan eu lluniau proffil bydd y ddolen, 'Cliciwch yma i ychwanegu'r defnyddiwr hwn fel ffrind'.
Cliciwch y ddolen hon ac mi fyddwch yn ffrindiau!

Negeseuon

I fynd at y dudalen negeseuon pwyswch y botwm 'negeseuon' ar y ddewislen ar frig y dudalen. O'r dudalen hon medrwch gyfansoddi neges a'i hanfon at ffrind neu ddarllen yn ôl dros negeseuon yr ydych eisioes wedi'u hanfon. Mae'r botwm 'golygu negeseuon' yn rhoi cyfle i chi i farcio neges 'wedi ei darllen' 'heb ei darllen' neu ei 'dileu'.

Proffil

Pwyswch y botwm 'Eich Proffil' sydd ar y ddewislen ar frig y dudalen ac fe gewch fynd i'r dudalen lle y medrwch rheoli cynnwys eich tudalen yng nghymuned Byw yn yr Ardd.
Drwy bwyso'r botwm 'Golygu'r proffil hwn' mi fedrwch newid y wybodaeth amdanoch chi eich hun sy'n ymddangos ar eich tudalen.
Drwy ddefnyddio 'Cyfyngu Mynediad' mi fedrwch rheoli pa wybodaeth y gall gael ei weld gan bobl eraill.
Mae Byw yn yr Ardd yn argymell nad ydych yn rhannu gwybodaeth bersonol megis eich cyfeiriad a'ch rhif ffôn. Peidiwch llenwi'r blychau neu dewiswch 'preifat' fel gosodiad 'Cyfyngu Mynediad'


Ychwanegu Cydran

Fe fedrwch ychwanegu hyd at saith 'cydran' i'ch tudalen yng nghymuned Byw yn yr Ardd. Ffordd hwylus o ddangos lluniau eich ffrindiau, blogiau ffrindiau, detholiad o'ch lluniau ac yn y blaen yw cydrannau.

Golygu Manylion Cyfrif


Yma fe allwch rheoli/newid:
Eich enw llawn
Eich ebost
Pwy sy'n cael eich rhestri chi fel ffrind
Pwy sy'n cael gwneud sylw ar eich wal sylwadau
Ydych chiam gael eich hysbysu drwy ebost pan mae neges yn cael ei gyrru atoch ar safle Byw yn yr Ardd
Eich cyfrinair
Eich dewis iaith
Yr hyn sy'n ymddangos ar y bar ochr