Gofynnwch i Byw yr yr Ardd
Oes twll yn nho'r sied? Ydy'ch seleri chi'n sâl? Ydych chi eisiau gwybod sut i ailgylchu bocsus wyau? Peidwch pendroni mwy – mae help wrth law! Ebostiwch eich cwestiynau at post@bywynyrardd.net. Cewch ateb gan Russell, Bethan, Sioned neu'r tîm ac mi gaiff y cwestiynau a'r atebion eu cyhoeddi yma!
Adeiladu dosbarth yn yr ardd
Cwestiwn
Helo sut mae
Rhys Owen di'r enw ac rwyf yn rhedeg meithrinfa plant yn Llanwnda or enw Pitian Patian.
Yr ydym yn trio adeiladu gardd fach i'r plant i'w haddysgu sut mae tyfu llysiau a phlanhigion.
Yr ydym wedi cael cynllun i weithio oddi arno ac wedi gwneud tipyn o waith.
Nawr rydym angen adeiladu dosbarth y tu allan fel bod y dysgu yn cymeryd lle yn yr ardd. Mi fuaswn yn hoff o adeiladu cwt bychan siap 50c a tho arno, ond mi fuaswn yn hoff o'i adeiladu allan o goed naturiol gyda'r rhisgyl arnynt ac yna gallu tyfu mwsog a phlanhigion ar y to i ddenu bywyd gwyllt ayyb.
Felly y cyngor mi fuaswn yn hoffi, os yw yn bosib, yw sut yr ydwyf yn mynd ati i dyfu mwsog a ballu, pwy blanghigion fysa'n tyfu dros y to a'i wneud yn 'waterproof', a beth fuasai'n denu bywyd gwyllt?
Rhys
Ateb
Mae'r prosiect o greu dosbarth allan yn yr ardd yn un difyr tu hwnt. O ran tyfu mwsog ar do'r cwt mae yna sawl ffordd o fynd ati i wneud hyn. Mae mwsog yn dal dŵr yn naturiol felly cofiwch adael ychydig o fylchau rhwng y darnau wrth eu gosod allan er mwyn rhoi cyfle i'r dŵr dreiddio mewn i'r pridd.
Mae'r gwefan hwn yn rhoi llawer iawn o wybodaeth am dyfu mwsog: www.knowledgeofbonsai.org
O ran dewis pa blanhigion fyddai orau i'w plannu ymysg y mwsog, mae yna restr gyflawn o blanhigion a blodau i'w gweld ar y gwefan hwn sydd hefyd yn nodi yn glir pa anifeiliad maent yn debygol o ddenu i'r ardd.
Poly Tunnel neu Dŷ Gwydr?
Cwestiwn
Rwyf yn hoff iawn o'ch rhaglen Byw yn yr Ardd. Rydym yn byw ar fferm ar uchder o 1000 o droedfeddi uwch lefel y môr. A fyddech yn gallu rhoi cyngor i mi beth fyddai orau er mwyn tyfu llysiau – tŷ gwydr neu Poly Tunnel?
Diolch yn fawr, Ifan Beech (7 oed)
Ateb
Wel su' mae Ifan – diolch am dy gwestiwn. Braf clywed bo chdi'n mwynhau gwatshad y rhaglan a da clywed bo chdi'n garddio – nesh i ddechra pan o'ddwn i dy oedran di sdi a dwi dal yn mwynhau bob eiliad! Ewadd ti'n byw mewn lle uchal Ifan – ma'n siwr fod gin ti olygfeydd godidog o'r fferm! Ma'r patsh sy gin i fyny yn Rhosgadfan yn 1000 o droedfeddi uwchlaw lefel y môr hefyd sdi, felly dwi di ca'l problema di ri efo'r gwynt wrth osod fy Poly Tunnel. Dwi di gorfod rhoi croen newydd dros y Poly Tunnel sy gin i er mwyn ei gryfhau rhag y gwynt.
Oherwydd y siap hanner crwn dwi'n meddwl ma' Poly Tunnel fasa ora i chi ond dyddia yma allwch chi hefyd brynu tŷ gwydr gyda pholion er mwyn atgyfnerthu'r strwythur.
Y peth pwysig yw d'eud wrth lle bynnag yr ydych yn prynu'r Poly Tunnel eich bod chi yn garddio fil o droedfeddi i fyny fel eu bod nhw'n gallu cynllunio adeilad fydd yn addas i wrthsefyll y tywydd.
Pob lwc efo'r tyfu a rho w'bod sut mae'n mynd efo chi!
Llwydni ar y mafon
Cwestiwn
Su' mae? Rwyf wedi sefydlu gwely o fafon coch ers tua 6 mlynedd. Yn anffodus, er fod yna gnwd da yn ffrwytho bob blwyddyn, mae nifer fawr o ffrwythau wedi eu gorchuddio â llwydni. Oes gennych ryw syniad beth yw'r broblem a beth ddylwn ni ei wneud?
Diolch, Ffuon Williams
Ateb
Helo na Ffuon – wel dwi wrth y modd yn bwyta mafon! Does dim llawar o bethau ar y farchnad erbyn hyn i ddelio gyda llwydni ond yr un gora hyd y gwn i yw Dithane 945 – mi ddylsa hwn ddatrys y broblam. Pob lwc efo'r cnwd 'leni de!
Coeden eirin yn marw'n ddirybydd
Cwestiwn
Wedi gweld Bethan Gwanas yn plannu y goeden "Victoria Plum", roeddwn yn gobeithio y medrech chi, neu rhywun sydd yn gwylio'r rhaglen, fy helpu i. Mi blannwyd "Victoria Plum" yn ein gardd ni yn 2005. Ni helais ddim o'r eirin yn 2006, er mwyn i'r goeden gael cryfhau, ac yn 2007 roedd cnwd enfawr o eirin ar y goeden.
Yr oedd cnwd da ar y goeden yn 2008 hefyd. Ond yn ddechrau mis mawrth 2009 mi sylwais nad oedd dim deilen na blaguryn arni, ac mae'n edrych fel bod y goeden wedi marw. Felly help!? Be fedraf i ei wneud? (A rhag ofn i'r un peth ddigwydd i Victoria Plum Bethan Gwanas.)
Gerallt Jones
Ateb
Y peth cynta' yw sefydlu os ydy'r goeden wedi marw neu beidio. Y ffordd ora o wneud hyn yw trwy dorri cangen i ffwr' ac yna torri'r gangan honno yn ei hannar ac edrych i weld os ydy hi'n torri yn glec, ac os oes yna ddiffyg lleithder tu fewn iddi. Os 'dy hyn yn wir yna mae'n dra debygol ei bod hi wir wedi marw.
Y cam nesaf wedi hyn yw sefydlu pam yn union mae hi 'di marw yn enwedig wrth ystyried ei bod hi 'di bod mor iach yn y gorffennol. Un peth sy'n sicr yw nid oherwydd diffyg dyfrhau yw hynny gan ein bod ni dros y 2 flyneddd diwethaf 'di cael dau haf hynod o wlyb!
Ydych chi 'di chwistrellu unrhyw blaladdwr yn yr ardd yn ddiweddar yn agos i'r goeden? Bydda crafu prusgl y goeden yn ddigon i adal unrhyw blaladdwr i dreiddio i fewn i'r pren a'i lladd.
Os ydy'r goeden yn farw, yr unig opsiwn, yn anffodus, yw ei thorri i lawr a phlannu coeden o'r newydd. Ma'n ddrwg gin i roi newyddion mor drist i chi.
Chwistrellu'r lawnt yn anfwriadol!
Cwestiwn
Annwyl bobl
HELP! Rydym wedi chwistrellu 'Gallup 360 'yn gamgymeriad dros y lawnt i gyd. Oes unrhywbeth allwn ni eu wneud i atal y lawnt rhag MARW!
Diolch, Eirlys Williams.
Ateb
O diar – dyna chi hen dro! Yn anffodus does dim llawar y gallach chi 'neud i arbad y borfa. Ceisiwch godi'r darna sydd wedi marw er mwyn atal y Gallup 360 rhag cyrraedd y pridd.
Mater o ail dyrffio ac ail hadu yw hi wedyn ac aros i'r lawnt ail gydio a rhoi digon o wrtaith iddi hi wrth gwrs!
